Organeb byw

Organeb byw
Amryw fathau o organebau
Mathendid anatomegol ffisegol Edit this on Wikidata
Rhan opoblogaeth, grŵp o bethau byw, Biota Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscell, system o organnau, cydadran neu elfen fiolegol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn bioleg, organeb byw yw pethau byw megis anifeiliaid, meicro-organebau, planhigion neu ffwng. Beth sy'n gyffredin rhwng y rhain i gyd? Y ffaith eu bont yn ymateb i stimwli, atgenhedlu, tyfu a pharhad. Gall yr organeb fod yn un gell (y ffurf mwyaf elfennol ar fywyd) neu'n amlgellog, megis bod dynol, gyda biliynau o gelloedd wedi'u grwpio'n organau a meinweoedd.

Mewn bioleg, organeb (o'r Hen Roeg ὄργανον) yw unrhyw system fyw, organig sy'n gweithredu fel endid unigol.[1] Mae pob organeb yn cynnwys celloedd.[1] Dosberthir organebau yn ôl tacsonomeg, yn grwpiau fel anifeiliaid amlgellog, planhigion a ffyngau; neu micro-organebau ungellog megis protistiau, bacteria, ac archaea.[2] Mae pob math o organebau'n gallu atgenhedlu, tyfu a datblygu, cynnal a chadw (gw. Homeostasis), a rhywfaint o ymateb i ysgogiadau. Mae chwilod, môr-lewys, pedwartroedion (tetrapodau), madarch, a phlanhigion fasgwlaidd yn enghreifftiau o organebau amlgellog sydd a meinweoedd ac organau arbenigol gwahanol iawn.

Felly, gellir rhannu'r organebau mewn sawl ffordd; un o'r rhain yw:

  • Procaryotig: sef bacteria ac archaea
  • Ewcaryotig: sef ffyngau, anifeiliaid a phlanhigion
Ffyngau ysgwydd (polyporau) yn parasitio'r goeden. Mae'r ddau'n enghreifftiau o organebau.

Dull arall o'u grwpio yw:

Un diffiniad eithaf derbyniol o organeb yw ei fod yn gasgliad o foleciwlau sydd â nodweddion 'byw'. Mae rhai gwyddonwyr yn mynnu na ddylai feirws gael ei ystyried yn organeb, nac ychwaith unrhyw ffurfiau mae dyn yn eu creu yn y dyfodol. Mae'r firws yn ddibynol ar ei organeb letyol i atgenhedlu, felly nad ydynt yn ffitio'r geiriad arferol y dylent fedru atgenhedlu eu hunain, heb gymorth.

Gall organeb ungellog fod naill ai'n brocaryot neu'n ewcaryotau. Cynrychiolir procaryotau gan ddau barth ar wahân – bacteria ac archaea. Nodweddir organebau ewcaryotig gan bresenoldeb cnewyllyn cell sy'n rhwym i bilen ac maent yn cynnwys adrannau ychwanegol wedi'u rhwymo â philen o'r enw organynnau (neu organelles; fel mitocondria mewn anifeiliaid a phlanhigion a phlasidau mewn planhigion ac algâu, i gyd yn cael eu hystyried yn gyffredinol i fod yn deillio o facteria endosymbiotig).[3] Mae ffyngau, anifeiliaid a phlanhigion yn enghreifftiau o deyrnasoedd o organebau o fewn yr ewcaryotau.

Mae amcangyfrifon ar nifer rhywogaethau presennol ar y Ddaear yn amrywio o 2 filiwn i 1 triliwn,[4] tipyn o ystod! Ac mae dros 1.7 miliwn ohonynt wedi'u cofnodi.[5] Amcangyfrifir bod mwy na 99% o'r holl rywogaethau, sy'n cyfateb i dros bum biliwn o rywogaethau, [6] a fu fyw erioed wedi eu difodi.[7][8]

Yn 2016, nodwyd set o 355 o enynnau o'r cyd-hynafiad cyffredinol diwethaf (last universal common ancestor; LUCA) o bob organeb.[9] [10]

  1. 1.0 1.1 Mosby's Dictionary of Medicine, Nursing and Health Professions (arg. 10th). St. Louis, Missouri: Elsevier. 2017. tt. 1281. ISBN 9780323222051.
  2. Hine, RS. (2008). A dictionary of biology (arg. 6th). Oxford: Oxford University Press. t. 461. ISBN 978-0-19-920462-5.
  3. Cavalier-Smith T. (1987). "The origin of eukaryotic and archaebacterial cells". Annals of the New York Academy of Sciences 503 (1): 17–54. Bibcode 1987NYASA.503...17C. doi:10.1111/j.1749-6632.1987.tb40596.x. PMID 3113314.
  4. Brendan B. Larsen; Elizabeth C. Miller; Matthew K. Rhodes; John J. Wiens (September 2017). "Inordinate Fondness Multiplied and Distributed:The Number of Species on Earth and the New Pie of Life". The Quarterly Review of Biology 92 (3): 230. http://www.wienslab.com/Publications_files/Larsen_et_al_QRB_2017.pdf. Adalwyd 11 November 2019.
  5. Anderson, Alyssa M. (2018). "Describing the Undiscovered". Chironomus: Journal of Chironomidae Research (31): 2–3. doi:10.5324/cjcr.v0i31.2887. https://scholar.google.com/scholar?hl=en&as_sdt=0%2C24&as_ylo=2018&as_yhi=2018&q=Anderson+%22Describing+the+undiscovered%22&btnG=.
  6. Kunin, W.E.; Gaston, Kevin, gol. (1996). The Biology of Rarity: Causes and consequences of rare – common differences. ISBN 978-0-412-63380-5. Cyrchwyd 26 May 2015.
  7. Stearns, Beverly Peterson; Stearns, S.C.; Stearns, Stephen C. (2000). Watching, from the Edge of Extinction. Yale University Press. t. preface x. ISBN 978-0-300-08469-6. Cyrchwyd 30 May 2017.
  8. Novacek, Michael J. (8 November 2014). "Prehistory's Brilliant Future". New York Times. Cyrchwyd 25 December 2014.
  9. Weiss, Madeline C.; Sousa, Filipa L.; Mrnjavac, Natalia; Neukirchen, Sinje; Roettger, Mayo; Nelson-Sathi, Shijulal; Martin, William F. (2016). "The physiology and habitat of the last universal common ancestor". Nature Microbiology 1 (9): 16116. doi:10.1038/nmicrobiol.2016.116. PMID 27562259.
  10. Wade, Nicholas (25 July 2016). "Meet Luca, the Ancestor of All Living Things". The New York Times. Cyrchwyd 25 July 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne