Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mathun o barciau cenedlaetho Cymru a Lloegr, Geoparc Edit this on Wikidata
Poblogaeth33,485 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1957 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,344 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.88°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW18000001 Edit this on Wikidata
Rheolir ganAwdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethGwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Edit this on Wikidata
Manylion
Edrych tua'r dwyrain oddi wrth Fan Hir
Mae hon yn erthygl am y parc cenedlaethol. Am y mynyddoedd yr enwir y parc ar eu hôl, gweler Bannau Brycheiniog.

Parc cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n un o dri yng Nghymru. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Fe'i ffurfiwyd ym 1957.

Yn Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Bannau Brycheiniog' yn unig o hyn ymlaen.[1]

Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.

Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.

  1. "Bannau Brycheiniog: Defnyddio'r enw Cymraeg yn unig yn "rhoi statws i'r iaith"". Golwg360. 2023-04-17. Cyrchwyd 2023-04-17.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne