Prydeindod

Prydeindod neu Prydeinrwydd yw'r term a ddefnyddir am ideoleg wleidyddol sy'n pwysleisio tebygrwydd honedig yn niwylliant a gwerthoedd trigolion Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig, yn hytrach na'r gwahaniaethau rhwng Saeson, Albanwyr a Chymry. Mae fel rheol yn gysylltiedig ag undeboliaeth Brydeinig a gwrthwynebiad i genedlaetholdeb Albanaidd, Cymreig, Gwyddelig, a Seisnig.

Prydeinig mewn unrhyw ystyr[1]
Gwlad / Grŵp Canran
Yr Alban 20%
Cymru 35%
Lloegr 48%
Gogledd Iwerddon 64%
Pobl wyn 45%
Pobl heb fod yn wyn 57%

Yn y cyfnod diweddar mae Prydeindod wedi ei bwysleisio gan Gordon Brown, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeindod" i ddod yn ŵyl flynyddol.

Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog. Beirniadwyd y syniad o Brydeindod gan genedlaetholwyr; er enghraifft yn 1966 cyhoeddodd J.R. Jones gyfrol Prydeindod yn ymosod ar yr ideoleg. Dywedodd Gwynfor Evans:

"Mae Prydeindod yn gyfystyr â Seisnigrwydd sy'n ymestyn y diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a'r Gwyddelod."

Yn ôl ymchwiliad yn 2001 (2006 i Ogledd Iwerddon), dim ond yng Ngogledd Iwerddon y mae mwyafrif o'r boblogaeth yn eu hystyried eu hunain yn Brydeinig mewn unrhyw ystyr. Yn y tair gwlad arall mae'r nifer sy'n eu hystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn hytrach na Saeson, Albanwyr neu Gymry wedi gostwng yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Mae pobl wyn yn llai tebyg i'w gweld eu hunain fel Prydeinwyr na lleiafrifoedd ethnig. Ymddengys fod hyn yn arbennig o wir yn Lloegr, gyda thuedd gryf i leiafrifoedd ethnig i'w gweld eu hunain fel Prydeinwyr yn hytrach na Saeson.

  1. National Statistics, Living in Britain 2001 (Households, Families and People: National Identity), 2001

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne