Pync-roc

Math o gerddoriaeth roc sy'n rhan o'r isddiwylliant pync ehangach yw pync-roc.[1] Mae ganddo arddull ffyrnig sy'n cefnogi "diffyg" medr cerddorol, hynny yw, arbrofoliaeth gryf oedd yn adlach i roc celfyddyd. Un o brif nodweddion y gerddoriaeth hon yw'r sŵn a gynhyrchir gan strymio'r gitâr tro ar ôl tro.[2]

Ymhlith y bandiau pync-roc a ddaeth i'r amlwg yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig yn y 1970au a'r 1980au oedd y Ramones, y Sex Pistols, The Clash a The Damned.

Roedd Llygod Ffyrnig o ardal Gwm Tawe y grŵp pync cyntaf i ganu yn Gymraeg. Recordiodd y band un sengl NCB yn 1978 a chwaraewyd ar raglen radio John Peel ar BBC Radio 1 a'i gynnwys ar LP aml-gyfrannog Labels Unlimited - The Second Record Collection - casgliad o recordiau o labeli pync a new wave.[3]. Mae'n debyg taw'r Anhrefn yw'r band pync-roc mwyaf adnabyddus i ganu yn Gymraeg.

  1. Geiriadur yr Academi, [punk].
  2. Latham, Alison (gol.). The Oxford Companion to Music (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002), t. 1015–6.
  3. https://www.discogs.com/Various-Labels-Unlimited-The-Second-Record-Collection/release/471879

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne