Rio de Janeiro

Rio de Janeiro
MathBwrdeistref ym Mrasil, dinas fawr, mega-ddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,211,423 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Mawrth 1565 Edit this on Wikidata
AnthemCidade Maravilhosa, Junte-se a Nós Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarcelo Crivella Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKyiv Edit this on Wikidata
NawddsantSant Sebastian Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRio de Janeiro Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd1,260.029215 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr31 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDuque de Caxias, Nilópolis, São João de Meriti, Itaguaí, Mesquita, Nova Iguaçu, Seropédica Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.9111°S 43.2056°W Edit this on Wikidata
Cod post20000-000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholMunicipal Chamber of Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarcelo Crivella Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.799 Edit this on Wikidata

Rio de Janeiro neu Rio[1] yw ail ddinas fwyaf Brasil, De America, y tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Ystyr ei henw Portiwgaleg yw "Afon Ionawr". Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Hi hefyd yw'r chweched dinas fwyaf o ran poblogaeth yn yr America gydag oddeutu 6,211,423 (2022)[2] o bobl.

Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel "Rio", ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig". Gelwir trigolion y ddinas yn "gariocas". Cân swyddogol Rio yw "Cidade Maravilhosa", gan y cyfansoddwr André Filho.

Dynodwyd rhan o'r ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd, o'r enw "Rio de Janeiro: Tirweddau Carioca rhwng y Mynydd a'r Môr", gan UNESCO ar 1 Gorffennaf 2012 fel 'Tirwedd Ddiwylliannol'.[3] Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema.[4] Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas hefyd yn nodedig am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau pel-droed mwyaf y byd.

Golygfa dros Rio de Janeiro o Fynydd y Dorth Siwgr

Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,[5] sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.

Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol hefyd.

Rio de Janeiro oedd gwesteiwr Gemau Olympaidd yr Haf 2016 a Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, gan wneud y ddinas y ddinas gyntaf yn Ne America i gynnal y digwyddiadau hyn, erioed, a'r trydydd tro i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal mewn dinas yn Hemisffer y De.[6] Cynhaliodd Stadiwm Maracanã rowndiau terfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 1950 a 2014, Cwpan Cydffederasiynau FIFA 2013, a Gemau Pan Americanaidd XV.

  1. "Rio de Janeiro: travel guide". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2015. Cyrchwyd 14 Mai 2015.
  2. https://www.ibge.gov.br/estatisticas/sociais/populacao/22827-censo-demografico-2022.html?edicao=37225. dyddiad cyrchiad: 24 Hydref 2023.
  3. "Rio de Janeiro: Carioca Landscapes between the Mountain and the Sea". UNESCO. 1 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2012.
  4. "Rio de Janeiro's Beach Culture" Tayfun King, Fast Track, BBC World News (11 Medi 2009)
  5. Rio hit by deadly gang violence BBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009
  6. "BBC Sport, Rio to stage 2016 Olympic Games". BBC News. 2 Hydref 2009. Cyrchwyd 4 Hydref 2009.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne