Senedd Prydain Fawr

Ffurfiwyd Senedd Prydain Fawr yn 1707 yn dilyn cadarnhad y Deddfau Uno gan Senedd yr Alban a Senedd Lloegr. Creodd y Deddfau Deyrnas Prydain Fawr gan greu un senedd unedig yn hytrach na dwy senedd ar wahân. Lleolwyd y senedd yn hen gartref Senedd Lloegr, Palas San Steffan, Llundain.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne