Stori asgwrn pen llo

Stori wirion sy'n afresymol ei chredu yw stori asgwrn pen llo.[1][2] Fel rheol natur ddigrif ond hir ac ailadroddus sydd i'r stori. Y flwyddyn 1887 yw'r dyddiad cynharaf a noder Geiriadur Prifysgol Cymru am yr ymadrodd hwn,[3] ond cyhoeddwyd y term mewn rhifyn o gylchgrawn Yr Haul ym 1852:

Gan fod y Golygydd mor hoff o storïau, a chan fod pobl Salem yn eu derbyn fel seigiau ysprydol iachus, y mae gennyf finnau un i'w thaflu i'w trysorfa ysprydol. Mewn ysgol yn y wlad, dywedai un crwltyn wrth y llall: 'Mae gennyf stori, am asgwrn pen llo; os wyt ti am i mi i'w dweud, mi a'i dywedaf; os wyt ti am i mi beidio, mi beidiaf.' 'Dwed hi.' 'Nid matter dwed hi ydyw y peth, ond stori am asgwrn pen llo,' &c. 'Taw.' 'Nid matter taw ydyw y peth, ond stori am asgwrn pen llo,' &c.[4]
  1. C. P. Cule. Cymraeg Idiomatig: Priod-ddulliau Byw (Y Bontfaen, D. Brown a'i Feibion, 1971), t. 27.
  2. Alun Rhys Cownie. Geiriadur Idiomau (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2001),t. 111.
  3.  ystori. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Mai 2016.
  4.  HANESION, &c.. Yr Haul. Cylchgronau Cymru Ar-lein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) (Hydref 1852). Adalwyd ar 3 Mai 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne