Ardaloedd gweinyddol yr Eidal, ar lefel ganolraddol rhwng rhanbarth (regione) a cymuned (comune) yw taleithiau'r Eidal (Eidaleg: province d'Italia).
Taleithiau'r Eidal. Gwahaniaethir y rhanbarthau yn ôl lliw o fewn llinellau trwchus; diffinnir y taleithiau oddi mewn iddynt gan linellau tenau.
Ar hyn o bryd mae 107 o gyrff sefydliadol ail lefel yn yr Eidal, gan gynnwys:
- 80 o daleithiau cyffredin
- 2 dalaith ymreolaethol
- 4 endid datganoli rhanbarthol
- 6 consortiwm trefol rhydd
- 14 o ddinasoedd metropolitan
- Valle d'Aosta, sydd hefyd yn gweithredu fel talaith