Tatareg

Iaith Dyrcaidd yw Tatareg a siaredir yng Ngweriniaeth Tatarstan yn Rwsia, a hefyd gan leiafrifoedd yn Rwmania, Bwlgaria, Twrci, a Tsieina. Ymhlith ei thafodieithoedd mae Tatareg Kazan, Tatareg y Gorllewin (neu Misher), Tatareg Kasimov, Tatareg Tepter (neu Teptyar), a Thatareg Astrakhan a'r Wral. Mae Tatareg Crimea yn perthyn i gangen ar wahân o ieithoedd Kipchak.[1]

  1. (Saesneg) Tatar language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2019.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne