Toulouse

Toulouse
Mathcymuned, dinas fawr, tref goleg Edit this on Wikidata
Poblogaeth504,078 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJean-Luc Moudenc Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
LleoliadOcsitania Edit this on Wikidata
SirHaute-Garonne
GwladBaner Ocsitania Ocsitania ,Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd118.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr141 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Garonne Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFenouillet, Aucamville, Balma, Blagnac, Colomiers, Cugnaux, Labège, Launaguet, Pechbusque, Portet-sur-Garonne, Quint-Fonsegrives, Ramonville-Saint-Agne, Saint-Orens-de-Gameville, Tournefeuille, L'Union, Vieille-Toulouse Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.6044°N 1.4439°E Edit this on Wikidata
Cod post31000, 31100, 31200, 31300, 31400, 31500 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Toulouse Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJean-Luc Moudenc Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn Ocsitania yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa /tuˈluzɔ/), yn département Haute-Garonne a région Occitanie. Tolosa yw prifddinas y région honno, a hi hefyd oedd prifddinas région Midi-Pyrénées a ddiddymwyd yn 2016. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth, ar ôl Paris, Marseille a Lyon. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Saif y ddinas ar Afon Garonne.

Yn Nhoulouse mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade Toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne