![]() | |
![]() | |
Math | tref farchnad, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 10,078 ![]() |
Gefeilldref/i | Östringen, Sarno, Canton Beaupréau ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,032.5 ha ![]() |
Gerllaw | Afon Wysg ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8331°N 3.0172°W ![]() |
Cod SYG | W04000775 ![]() |
Cod OS | SO295145 ![]() |
Cod post | NP7 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Davies (Ceidwadwr) |
![]() | |
Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni[1][2] (Saesneg: Abergavenny). Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.
Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]