Ysgol gyfun

Ysgol uwchradd yw ysgol gyfun, sydd ddim yn dewis eu disgyblion ar sail gallu na champau academaidd. Defnyddir y term yn gyffredin yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig yng Nghymru a Lloegr, lle cyflwynwyd ysgolion cyfun tuag at ddiwedd yr 1960au a'r 1970au cynnar. Addysgir tua 90% o ddisgyblion Prydeinig mewn ysgolion cyfun.

Gan fod ysgol gyfun yn addysgu amrediad eang o bynciau ar draws y sbectrwm academaidd a galwedigaethol, deallir yn gyffredinol y bydd angen i'r ysgol fod o faint go fawr i allu derbyn plant o amryw eang o allu.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne