Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 486 metr |
Cyfesurynnau | 51.858386°N 2.970816°W |
Cod OS | SO3311818283 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 344 metr |
Rhiant gopa | Ysgyryd Fawr |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du |
Bryn yn Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru yw Ysgyryd Fawr (Saesneg: Skirrid neu Skirrid Fawr). Ysgyryd Fawr yw copa mwyaf dwyreiniol y Mynydd Du; saif gerllaw y Fenni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r de o'r bryn ceir pentref a phlwyf Llanddewi Ysgyryd; cyfeiriad grid SO331182.
Uchder y mynydd yw 486 m (1596 tr). Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 142 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Cyfeirir ato weithiau fel "Mynydd Sanctaidd", gan fod traddodiad lleol fod ei ddaear yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon. Arfeid cymryd rhywfaint o'r pridd o'r bryn i'w wasgari ar gaeau, ar sylfeini eglwysi ac ar eirch.
Ceir gweddillion bryngaer o Oes yr Haearn ac adfeilion eglwys Gatholig Sant Mihangel ar y copa.