Drws

Drws yn Sălaj.

Mae drws yn ddarn o bren, metal neu arall sy'n agor neu'n cau mynediad i ystafell neu adeilad. Mae rhai drysau'n cael eu cloi gyda chlo neu gliced. Caiff drysau eu canfod mewn canolfuriau neu waliau, mewn ystafelloedd, cypyrddau, cerbydau neu gynwysyddion.

Defnyddir drysau er mwyn:

  • cadw eitemau, pobl ac anifeiliaid o fewn ystafell, cynhwysydd neu gerbyd
  • rheoli tymheredd gwagle (mewn ystafell yn y tŷ, neu mewn oergell)
  • cadarnhau preifatrwydd ac atal sŵn

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne