Gwyddor Seinegol Ryngwladol

Siart yr Wyddor Seinegol Ryngwladol er 2020

System wyddorol o nodiant seinegol yw'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Alphabet neu IPA). Mae'n seiliedig yn bennaf ar yr wyddor Ladin, a dyfeisiwyd hi gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol yn y 19eg ganrif fel dull safonedig o safonol o gynrychioli seiniau iaith lafar.[1] Defnyddir yr WSR gan eiriadurwyr, myfyrwyr ac athrawon ieithoedd tramor, ieithyddion, patholegwyr iaith a lleferydd, cantorion, actorion, chyfieithwyr a'r rhai sy'n creu ieithoedd gwneud.[2][3]

Bwriedir i'r Wyddor Seinegol Ryngwladol allu cynrychioli nodweddion lleferydd sydd yn rhan o seiniau geiriol (ac i raddau llai, seiniau prosodig) iaith lafar yn unig, sef ffonau, ffonemau, goslef a gwahaniad geiriau a silliau.[1] Er mwyn cynrychioli nodweddion eraill mewn lleferydd, megis rhincian dannedd, siarad yn floesg a seiniau a wneir â thafod a thaflod hollt, gellir defnyddio set estynedig o symbolau, estyniadau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol.[2]

Mae symbolau'r Wyddor yn cynnwys un neu fwy o elfennau o ddau fath sylfaenol: llythrennau a marciau diacritig. Er enghraifft, gellir trawsgrifio'r llythryen Gymraeg ⟨c⟩ yn yr WSR ag un llythyren, [k], neu â llythyren â marc diacritig, [kʰ], er mwyn bod yn fwy manwl gywir. Slaesau a ddefnyddir i ddangos trawsgrifiad ffonemig, felly mae /k/ yn fwy haniaethol na [k] a [kʰ], a gellid cyfeirio at y naill neu'r llall gan ddibynnu ar y cyd-destun a'r iaith.

O bryd i'w gilydd, caiff llythrennau neu farciau diacritig eu hychwanegu, eu diddymu neu eu haddasu gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Ers y newidiadau diweddaraf yn 2005,[4] 107 o lythrennau segmentol, nifer anferthol o lythrennau uwchsegmentol, 44 o farciau diacritig (heb gynnwys cyfuniadau) a phedwar marc prosodig alleiriol sydd yn yr wyddor. Gwelir y rhan fwyaf o'r rhain yn siart yr WSR yn yr erthygl hon a gyfieithiwyd i'r Gymraeg yn 2020.[5]

  1. 1.0 1.1 International Phonetic Association (IPA), Handbook.
  2. 2.0 2.1 MacMahon, Michael K. C. (1996). "Phonetic Notation". In P. T. Daniels; W. Bright (gol.). The World's Writing Systems. New York: Oxford University Press. tt. 821–846. ISBN 0-19-507993-0.
  3. Wall, Joan (1989). International Phonetic Alphabet for Singers: A Manual for English and Foreign Language Diction. Pst. ISBN 1-877761-50-8.
  4. "IPA: Alphabet". Langsci.ucl.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 October 2012. Cyrchwyd 20 November 2012.
  5. "Yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (diwygiwyd 2020)" (PDF).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne