Prifysgol

Sefydliad addysg uwch ac ymchwil yw Prifysgol, sy'n rhoi graddau academig ar bob lefel (baglor, meistr a doethur) mewn amrywiaeth o bynciau. Mae prifysgol yn darparu addysg drydyddol a phedryddol. Mae'r gair am brifysgol mewn sawl iaith (Ffrangeg "université" er enghraifft) yn dod o'r ymadrodd Lladin universitas magistrorum et scholarium, sy'n golygu "cymuned o feistrau ac ysgolheigion."


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne