Unol Daleithiau America

Unol Daleithiau America
United States of America
ArwyddairIn God We Trust Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth ffederal, Uwchbwer, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYr Amerig Edit this on Wikidata
PrifddinasWashington Edit this on Wikidata
Poblogaeth331,449,281 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Mai 1784 (cydnabyddwyd annibynniaeth gan y famwlad, Treaty of Paris (1783)) Edit this on Wikidata
AnthemThe Star-Spangled Banner Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJoe Biden Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd America Edit this on Wikidata
Arwynebedd9,826,675 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMecsico, Canada Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.828175°N 98.5795°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngres yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJoe Biden Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJoe Biden Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$23,315,081 million, $25,462,700 million Edit this on Wikidata
Ariandoler yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6.7 ±0.001 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.8615 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.921 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America (Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii. Ceir hefyd 326 neilldiroedd Amerindiaidd (Indian reservations). Gydag arwynebedd o 3.8 miliwn milltir sgwâr hi yw'r drydedd neu'r bedwaredd wlad fwyaf yn y byd. Mae'n ffinio gyda Chanada i'r gogledd a Mecsico i'r de yn ogystal â ffiniau morwrol cyfyngedig gyda'r Bahamas, Cuba, a Rwsia.[1]

Ymfudodd y paleo-Amerindiaid i dir mawr Gogledd America o leiaf 12,000 o flynyddoedd yn ôl, a dechreuodd gwladychu Ewropeaidd yn yr 16g. Daeth yr Unol Daleithiau yn annibynnol o Loegr wedi sawl anghydfod â Phrydain Fawr ynghylch trethiant a chynrychiolaeth wleidyddol at Ryfel Annibyniaeth America (1775–1783), a ddaeth ag annibyniaeth i'r genedl. Serennod y Cymro Richard Price pan ddechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America ar 9 Ebrill 1775 a bu'n allweddol yn cynghori'r Llywodreth newydd sut i greu system ariannol newydd.

Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd yr Unol Daleithiau ehangu ar draws Gogledd America, gan feddiannu tiriogaethau newydd yn raddol, weithiau trwy ryfel neu drwy ddisodli Americanwyr Brodorol yn aml, gan eu troi'n daleithiau newydd; erbyn 1848, roedd yr Unol Daleithiau yn rhychwantu'r Gogledd America, ar wahan i'r gwledydd a elwir heddiw'n Ganada ac Alaska.

Roedd caethwasiaeth yn gyfreithlon yn ne'r Unol Daleithiau tan ail hanner y 19g, pan arweiniodd Rhyfel Cartref America at ei ddiddymu. Daeth yr Unol Daleithiau'n bwer mawr yn dilyn Rhyfel Sbaen-America a Rhyfel Byd Cyntaf, statws a gadarnhawyd gan ganlyniad yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y Rhyfel Oer, ymladdodd yr Unol Daleithiau Ryfel Corea a Rhyfel Fietnam ond osgowyd gwrthdaro milwrol uniongyrchol â'r Undeb Sofietaidd. Cystadlodd y ddau bŵer yn y Ras Ofod, gan arwain Rwsia'n llwyddo i roi dyn yn y gofod, ac yna yr UDA yn llwyddo i roi dyn ar y lleuad. Daeth diddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991 a'r Rhyfel Oer i ben, gan adael yr Unol Daleithiau fel unig bŵer-enfawr y byd.

Mae'r Unol Daleithiau yn weriniaeth ffederal ac yn ddemocratiaeth gynrychioliadol gyda thair cangen ar wahân o lywodraeth, gan gynnwys deddfwrfa ddwyochrog. Mae'n aelod sefydlog o'r Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, NATO, a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Caiff ei hystyried yn dawddlestr o ddiwylliannau ac ethnigrwydd, ac mae ei phoblogaeth wedi cael ei siapio gan ganrifoedd o fewnfudo. Mae'r UD yn uchel mewn mesurau rhyngwladol o ryddid economaidd, ansawdd bywyd, addysg a hawliau dynol, er bod ganddi record ofnadwy o lofruddiaethau gynnau, niferoedd mewn carchar, problemau cyffuriau ayb. a beirniadir y wlad am yr anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â hil, cyfoeth ac incwm a diffyg gofal iechyd cyffredinol.

Mae'r Unol Daleithiau yn wlad ddatblygedig iawn, mae'n cyfrif am oddeutu chwarter y CMC byd-eang, a hi yw economi fwyaf y byd yn ôl CMC ar gyfraddau cyfnewid y farchnad . Yn ôl gwerth, yr Unol Daleithiau yw mewnforiwr nwyddau mwy'r byd ac allforiwr nwyddau ail-fwyaf. Er mai dim ond 4.2% o gyfanswm y byd yw ei phoblogaeth, mae'n dal 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y gyfran fwyaf sydd gan unrhyw wlad. Gan ffurfio mwy na thraean o'r gwariant milwrol byd-eang, hwn yw'r pŵer milwrol mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae'n rym gwleidyddol, diwylliannol a gwyddonol, yn rhyngwladol.[2]

  1. Simpson, Victoria (2020-05-06). "Countries with Which the US Shares Maritime Borders". WorldAtlas.
  2. Cohen, 2004: History and the Hyperpower

    BBC, April 2008: Country Profile: United States of America

    "Geographical trends of research output". Research Trends. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-17. Cyrchwyd March 16, 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne