Washington, D.C.

Washington
ArwyddairJustitia Omnibus Edit this on Wikidata
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau, prifddinas, dinas fawr, anheddiad dynol, cymuned wedi'i chynllunio, political city Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGeorge Washington, Christopher Columbus Edit this on Wikidata
Poblogaeth689,545 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Gorffennaf 1790 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMuriel Bowser Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoltaleithiau cyfagos UDA, Canolbarth yr Iwerydd, rhaniad ddinesig Washington–Arlington–Alexandria Edit this on Wikidata
SirDistrict of Columbia Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd177 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr72 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Potomac, Afon Anacostia, Rock Creek Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArlington County, Alexandria, Virginia, Prince George's County, Montgomery County, Fairfax County, Bethesda, Maryland, Silver Spring Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.895°N 77.0367°W Edit this on Wikidata
Cod post20001–20098, 20201–20599 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Dosbarth Columbia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMuriel Bowser Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Unol Daleithiau America yw Washington, D.C. (District of Columbia: Ardal Columbia)[1]. Fe'i henwir ar ôl George Washington, ac mae'r 'DC' yn cyfeirio at ddalgylch Columbia lle lleolir y ddinas. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan y ddinas boblogaeth o 689,545 (1 Ebrill 2020)[2] - llai na dwywaith maint Caerdydd. Dyma oedd y ddinas 24ain fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau yn 2010. Yn sgil cymudwyr sy'n byw yn y maestrefi, cynydda boblogaeth Washington D.C. i dros filiwn yn ystod yr wythnos waith. Mae ardal ddinesig di-dor Washington Fwyaf yn ymestyn i Maryland, Virginia, a Gorllewin Virginia, ac yn cynnwys poblogaeth o bron 5,600,000.

Fe'i lleolwyd ar Afon Potomac sy'n ffinio â Maryland a Virginia, a chynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ym 1800. Enwyd y ddinas ar ôl George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau ac un o'r "Tadau Sylfaenol", sef sefydlwyr yr Unol Daleithiau.[3] Enwir yr ardal ffederal ar ôl Columbia, personoliad benywaidd o'r genedl (a'r enw "Columbus"), fel a welir yn y Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) a llawer o enwau llefydd. Fel sedd llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau a sawl sefydliad rhyngwladol, mae'r ddinas yn brifddinas wleidyddol bwysig yn y byd.[4] Mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 20 miliwn o ymwelwyr yn 2016.[5][6]

Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n chwarteri (neu'n 'gwadrantau') sydd wedi'u canoli ar Adeilad y Capitol, ac mae cymaint â 131 o gymdogaethau (neighborhoods). Mae maer a etholwyd yn lleol a chyngor 13-aelod wedi llywodraethu'r ardal ers 1973. Cadwa'r Gyngres yr awdurdod goruchaf dros y ddinas a gallant wyrdroi deddfau lleol. Ethola preswylwyr D.C. un dirprwy di-bleidlais, i Dŷ'r Cynrychiolwyr, ond nid oes gan yr ardal gynrychiolaeth yn y Senedd. Mae pleidleiswyr y dosbarth (district) yn dewis tri etholwr arlywyddol yn unol â'r Trydydd Gwelliant ar hugain i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau, a gadarnhawyd ym 1961.

Lleolir tair cangen o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn yr ardal: y Gyngres (deddfwriaethol), yr arlywydd (gweithredol), a’r Goruchaf Lys (barnwrol). Mae Washington yn gartref i lawer o henebion ac amgueddfeydd cenedlaethol, wedi'u lleoli'n bennaf ar neu o amgylch y National Mall. Ceir yn y ddinas 177 o lysgenadaethau tramor yn ogystal â phencadlys llawer o sefydliadau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau di-elw, grwpiau lobïo, a chymdeithasau proffesiynol, gan gynnwys Grŵp Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, yr AARP, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, yr Ymgyrch Hawliau Dynol, y Gorfforaeth Cyllid Rhyngwladol, a Chroes Goch America.

  1. "Introduction: Where Oh Where Should the Capital Be?". WHHA (yn Saesneg).
  2. "QuickFacts: Washington city, District of Columbia". Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ebrill 2022. Cyrchwyd 22 Ebrill 2022.
  3. "Washington, D.C. History F.A.Q." The Historical Society of Washington, D.C. (yn Saesneg). May 27, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2017. Cyrchwyd 7 Mawrth 2018.
  4. Broder, David S. (18 Chwefror 1990). "Nation's Capital in Eclipse as Pride and Power Slip Away". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-10. Cyrchwyd 18 Hydref 2010. In the days of the Truman Doctrine, the Marshall Plan and the creation of NATO, [Clark Clifford] said, we saved the world, and Washington became the capital of the world.
  5. "The 10 most-visited cities in the US this year". Insider. Cyrchwyd 6 Mawrth 2018.
  6. Cooper, Rebecca (9 Mai 2017). "D.C. breaks another domestic tourism record". www.bizjournals.com. Washington Business Journal.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne