Enw ar y pethau cofiadwy sydd yn nodweddiadol o ddiwylliant ac hanes Unol Daleithiau America yw Americana, gan gynnwys arteffactau, traddodiadau, arferion, a symbolau, yn enwedig y pethau sydd yn ennyn hiraeth am yr hen ddyddiau. Mae'n amrywio o ddiwylliant materol a phethau bob dydd i'r celfyddydau cain. Gall gynnwys:
- Hen bethau, cynnyrch, a ffasiynau'r oesoedd o'r blaen, megis dillad, offer, ceir tras, ac hysbysebion;
- Celf y werin, celf a chrefft, gweithiau llaw, celfyddydau tecstilau (er enghraifft, cwiltiau), crochenwaith, gwaith pren, a chreiriau'r cartref;
- Cerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth werin ac hen gerddoriaeth boblogaidd megis y felan, jazz, canu gwlad, a roc a rôl;
- Llên gwerin, chwedlau lleol, ac hanes llafar;
- Symbolau ac eiconau, er enghraifft yr eryr moel, ffordd Route 66, Cerflun Rhyddid, a Phont Golden Gate;
- Coginiaeth, yn enwedig bwyd cysur, prydau traddodiadol, a danteithion rhanbarthol, megis teisen afalau, hambyrgyrs, cŵn poeth, cyw iâr wedi ei ffrio, a barbeciw;
- Gwyliau a dathliadau, yn enwedig Diwrnod Annibyniaeth a Diwrnod Diolgarwch ac agweddau Americanaidd ar y Nadolig a Nos Galan Gaeaf, ac adloniant cyhoeddus yn yr awyr agored megis tân gwyllt, paredau, a ffeiriau;
- Chwaraeon, yn enwedig "y Pedwar Mawr", sef pêl-fas, pêl-droed Americanaidd, pêl-fasged, ac hoci iâ;
- Y sinema a'r cyfryngau torfol, yn enwedig "Oes Glasurol Hollywood" (oddeutu 1927–69), "Radio yr Oes o'r Blaen" (1920au–1950au), ac "Oes Aur y Teledu" (1947–60).