![]() | |
Math | tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 14,736, 16,909 ![]() |
Gefeilldref/i | Grass Valley, Bad Bederkesa, Ar Releg-Kerhuon ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() ![]() |
Cyfesurynnau | 50.466°N 4.718°W ![]() |
Cod SYG | E04011404 ![]() |
Cod OS | SX071665 ![]() |
Cod post | PL31 ![]() |
![]() | |
Tref a phlwyf sifil yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Bosvena (Saesneg: Bodmin)[1].[2]
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 14,736.[3]
Yn hanesyddol, Bodmin oedd tref sirol Cernyw, nes i Lysoedd y Goron symud i Truro, canolfan weinyddol y sir heddiw. Ar gyrion y dref ceir Gwaun Bodmin. Mae Caerdydd 156.2 km i ffwrdd o Bodmin ac mae Llundain yn 344.4 km. Y ddinas agosaf ydy Truro sy'n 33.2 km i ffwrdd.
Credir fod Pedrog, sant cenedlaethol Cernyw, wedi sefydlu clas yma yn y 6g. Mae'r gair bod yn gytras â'r gair Cymraeg bod ac yn golygu 'preswylfod, trigfan'; mae'r ail elfen yn yr enw, menegh, yn cyfateb i mynach(od) yn Gymraeg: felly 'Trigfan y mynachod' yw ystyr yr enw.
Cychwynnwyd tri wrthryfel Cernywaidd ym Modmin. Yn 1497, arweiniodd Michael An Gof a Thomas Flamank fyddin o Gernywiaid i Blackheath yn Llundain lle cawsant eu trechu gan fyddin y brenin. Yn Awst yn yr un flwyddn, 1497, ceisiodd Perkin Warbeck ddiorseddu Harri VII o Loegr. Yn 1549, cychwynnwyd "Gwrthryfel y Llyfr Gweddi" yno gan Gernywiaid Catholig a wrthwynebai fwriad y brenin Protestant Edward VI o Loegr i orfodi llyfr gweddi newydd. Cyraeddasant Caerwysg yn Nyfnaint. Roedd galwad am gael cyfieithiad Cernyweg o'r llyfr gweddi hefyd. Lladdwyd tua 4,000 yn y gwrthryfel hwnnw.