![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,269, 2,523 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 372.3 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.4°W ![]() |
Cod SYG | W04000153 ![]() |
Cod OS | SJ056789 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Pentref canolig ei faint a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Diserth ( Diserth )[1][2] neu Dyserth.[3][4] Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r de o Brestatyn ac i'r dwyrain o dref Rhuddlan. Poblogaeth 2566 (Cyfrifiad 2001).
Yn yr Oesoedd Canol, Diserth oedd canolfan cwmwd Prestatyn, yng nghantref Tegeingl. Yma, ar gyrion y pentref presennol, roedd plasdy Botryddan, canolfan y Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol grymusaf y Gogledd. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, claddwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370) yn eglwys Diserth.
Ger y pentref ceir olion hen chwareli a rhaeadrau, ac mae bryn deniadol Moel Hiraddug yn y cyffiniau. Gorwedd ar yr A5151 ac mae rhan o Lwybr y Gogledd yn rhedeg heibio i'r pentref.