Math o gyfrwng | enwad crefyddol |
---|---|
Math | Ailfedyddiaeth |
Rhan o | Ailfedyddiaeth, Protestaniaeth |
Yn cynnwys | Old Roman Mennonites |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enwad Protestannaidd a ddeilliodd o'r Ailfedyddwyr yw'r Mennoniaid neu'r Menoniaid. Cyfododd y Mennoniaid yn yr Iseldiroedd a'r Almaen tuag amser y Diwygiad Protestannaidd. Enwir y sect ar ôl y diwygiwr Ffrisiaidd Menno Simons (1496–1561), offeiriad Pabyddol a ymunodd â'r Ailfedyddwyr ym 1536. Pwysleisiodd ei athrawiaeth fedydd credinwyr mewn oed, disgyblaeth eglwysig, heddychaeth, a gwrthod gwasanaethu fel ynadon. Wedi ei farwolaeth, tyfodd fudiad efengylaidd o'i ddilynwyr yn y Swistir. Mudodd nifer ohonynt i'r Almaen i ddianc erledigaeth. Lledodd y Mennoniaid i Ffrainc, Rwsia a'r Iseldiroedd. Cyhoeddwyd Cyffes Ffydd Dordrecht yn yr Isalmaen ym 1632. Ymfudodd nifer o Fennoniaid i Ogledd America, yn bennaf Pensylfania ac Ohio.