![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 323, 291 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,328.48 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1474°N 3.49°W ![]() |
Cod SYG | W04000170 ![]() |
Cod OS | SJ003621 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Nantglyn ( ynganiad ). Saif rhyw 4.5 milltir o dref Dinbych ac ychydig i'r gorllewin o Fynydd Hiraethog. Ychydig llai na milltir i'r gogledd-orllewin mae Waen, Nantglyn.
Saif Nantglyn ar Afon Ystrad, sy'n llifo i mewn i Afon Clwyd. Mae afon lai, Afon Lliwen, yn ymuno a'r Ystrad ger y pentref. Mae traddodiad fod clas wedi ei sefydlu yma gan Mordeyrn, ŵyr i Gunedda Wledig. Ymhlith hynodion y pentref mae'r "pulpud mewn coeden", a ddefnyddiwyd unwaith gan John Wesley yn ôl y traddodiad. Caeodd yr ysgol yn y 1990au ac erbyn hyn nid oes siop yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan David Jones (Ceidwadwr).[1][2]