Delwedd:Afghan-big.jpg, Afghanistan - Location Map (2013) - AFG - UNOCHA.svg | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad ![]() |
---|---|
Prifddinas | Kabul ![]() |
Poblogaeth | 41,454,761 ![]() |
Sefydlwyd | 1709 |
Anthem | This Is the Home of the Brave ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Mohammad Hasan Akhund ![]() |
Cylchfa amser | UTC+04:30, Asia/Kabul ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pashto, Dari, Balochi, Nuristani, ieithoedd Pamir, Pashayi, Wsbeceg, Arabeg, Twrcmeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 652,230 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Pacistan, Iran, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Cyfesurynnau | 33°N 66°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Affganistan ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Affganistan ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Amir al-Mu'minin ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Hibatullah Akhundzada ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Affganistan ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohammad Hasan Akhund ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $14,583 million ![]() |
Arian | afghani ![]() |
Canran y diwaith | 9 canran, 8.5 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 4.843 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.478 ![]() |
Gwlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Affganistan neu Affganistan (hefyd Affganistán). Mae'r wlad yn ffinio ag Iran, Pacistan, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan a gorllewin eithaf Tsieina. Ei phrifddinas yw Kabul. Poblogaeth Affganistan yn y cyfrifiad diwethaf oedd 41,454,761 (2023)[1]. Arwynebedd y wlad yw 652,000 cilomedr sgwâr (252,000 metr sgwâr), ac mae'n fynyddig gyda gwastadeddau yn y gogledd a'r de-orllewin. Kabul yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Mae'r boblogaeth yn cynnwys Pashtuniaid ethnig, Tajiciaid, Hazaraiaid ac Wsbeciaid yn bennaf.
Gweriniaeth Islamaidd arlywyddol unedol yw Affganistan. Mae gan y wlad lefelau uchel o derfysgaeth, tlodi, diffyg maeth plant, a llygredd. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd, Cymdeithas Cydweithrediad Rhanbarthol De Asia, y Grŵp o 77, y Sefydliad Cydweithrediad Economaidd, a'r Mudiad Gwledydd Heb Aliniad. Economi Affganistan yw 96ain mwyaf y byd, gyda chynnyrch domestig gcrynswth (GDP) o $72.9 biliwn trwy Paredd gallu prynu. Mae'r wlad yn waeth o lawer o ran CMC y pen (PPP), gan ddod yn 169fed allan o 186 o wledydd yn 2018. Mewn cymhariaeth, yn 2019 Cymru oedd 31fed gwlad fwya'r byd o ran CMC y pen (PPP).
Mae'n mwynhau cysylltiadau agos gyda nifer o genhedloedd NATO, yn enwedig yr Unol Daleithiau, Canada, y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Awstralia a Thwrci. Yn 2012, llofnododd yr Unol Daleithiau ac Affghanistan Gytundeb Partneriaeth Strategol.[2]
|access-date=
(help)