Alexandre Dumas | |
---|---|
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1802 Villers-Cotterêts |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1870 Dieppe, Puys |
Man preswyl | former 2nd arrondissement of Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | nofelydd, dramodydd, llenor |
Swydd | president of the Société des gens de lettres |
Adnabyddus am | The Count of Monte Cristo, The Three Musketeers, La Reine Margot, Twenty Years After, La Dame de Monsoreau, Joseph Balsamo, The Forty-five Guardsmen, The Vicomte of Bragelonne: Ten Years Later, The Queen's Necklace, The Countess of Charny, Ange Pitou |
Prif ddylanwad | Simon Ganneau |
Mudiad | French Romanticism |
Tad | Thomas-Alexandre Dumas |
Mam | Marie-Louise-Élisabeth Labouret Dumas |
Priod | Ida Ferrier |
Partner | Belle Kreilssamner, Emélie Cordier, Anna Bauer, Fanny Gordosa |
Plant | Alexandre Dumas fils, Henry Bauër, Marie Alexandrine Dumas, Micaëlla-Clélie-Josepha-Élisabeth Cordier |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Marchog Urdd y Llew Iseldiraidd, Officier de la Légion d'honneur, Urdd Isabel la Católica, Urdd Siarl III, Nichan Iftikhar |
llofnod | |
Nofelydd o Ffrainc oedd Alexandre Dumas (24 Gorffennaf 1802 - 5 Rhagfyr 1870). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur Les Trois Mousquetaires a Le Comte de Monte-Cristo.
Ganed ef yn Villers-Cotterêts yn département Aisne, yn fab i'r cadfridog Thomas Alexandre Dumas. Yn 1822, symudodd i ddinas Paris, lle bu'n gweithio yn y Palais-Royal yn swyddfa'r duc d'Orléans (Louis Philippe). Yno, dechreuodd ysgrifennu i gylchgronau a daeth yn adnabyddus fel dramodydd. Yn ddiweddarach, troes at ysgrifennu nofelau hanesyddol.
Daeth ei fab, Alexandre Dumas (1824-1895), yn adnabyddus fel nofelydd hefyd, yn arbennig fel awdur La Dame aux camélias.
Claddwyd ef Villers-Cotterêts, ond yn 2002 codwyd ei gorff i'w ail-gladdu yn y Panthéon ym Mharis.