![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad anllywodraethol, sefydliad di-elw, nonprofit corporation ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 28 Mai 1961 ![]() |
Lleoliad yr archif | International Institute of Social History ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Secretary-General of Amnesty International ![]() |
Sylfaenydd | Peter Benenson ![]() |
Aelod o'r canlynol | Campaign to Stop Killer Robots ![]() |
Isgwmni/au | Amnesty International Ireland, Amnesty International France, Amnesty International Brazil ![]() |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad anllywodraethol ![]() |
Pencadlys | Llundain, Dinas Brwsel ![]() |
Enw brodorol | Amnesty International ![]() |
Gwefan | https://www.amnesty.org ![]() |
![]() |
Carfan bwyso annibynnol byd-eang yw Amnest Rhyngwladol (a elwir yn gyffredin yn Amnest) sydd yn ymgyrchu dros ryddhad pob carcharor cydwybod (sef pobl a garcharir neu gam-drinir oherwydd eu credoau gwleidyddol neu grefyddol: gweler hefyd carcharor gwleidyddol). Sefydlodd y cyfreithiwr Prydeinig Peter Benenson y mudiad yn 1961, gyda'i bencadlys yn Llundain. Seilir Amnest Rhyngwladol ar rwydwaith o grwpiau lleol gwirfoddol ac aelodau unigol ar draws y byd, sydd yn mabwysiadu carcharorion cydwybod ac yn dilyn'u hachosion gyda'r llywodraethau perthnasol neu drwy gyrff rhyngwladol. Mae dulliau'r mudiad o ymchwilio ac ymgyrchu yn cynnwys monitro, cyhoeddusrwyd trwy'r cyfryngau torfol, a gohebiaeth gydag unigolion.
Mae gan Amnest Rhyngwladol tua 1 miliwn o aelodau byd-eang, gyda 5,300 o grwpiau gwirfoddol ac adrannau a drefnir yn ôl gwlad mewn 56 o wledydd, a chefnogwyr mewn 162 o wledydd. Caiff ei gyllido gan roddion gwirfoddol. Derbynnodd Gwobr Heddwch Nobel yn 1977 am "ei ymdrechion ar ran amddiffyn urddas dynol yn erbyn trais a darostyngiad".
Enillodd Wobr Erasmus ym 1976.[1]