Arwyddair | Pro Tanto Quid Retribuamus? |
---|---|
Math | dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf |
Enwyd ar ôl | Afon Farset |
Poblogaeth | 345,006 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Bonn, Hefei, Guadalajara |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Belffast |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Arwynebedd | 114.995472 km² |
Uwch y môr | 3 metr |
Cyfesurynnau | 54.5964°N 5.93°W |
Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste;[1] Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.
Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.