![]() | |
Enghraifft o: | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 22 Mehefin 1402 ![]() |
Rhan o | gwrthryfel Owain Glyn Dŵr ![]() |
Lleoliad | Pilalau ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Roedd Brwydr Bryn Glas (SO 253682), (hefyd Brwydr Pilleth mewn cofnodion Saesneg, neu weithiau Frwydr Pyllalai[1]) yn frwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyn Dŵr a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson dan Syr Edmund Mortimer. Cafodd ei ymladd ar 22 Mehefin 1402, ger pentref Pilalau, ar odre gogleddol Fforest Clud, ger Llanandras a'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys.