![]() | |
Math | dinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Gaer a Chaer |
Poblogaeth | 87,507 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Lörrach, Senigallia, Lakewood ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 23.6 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Eaton and Eccleston, Great Boughton, Huntington, Dodleston, Guilden Sutton, Mickle Trafford and District, Mollington, Swydd Gaer ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2°N 2.88°W ![]() |
Cod OS | SJ405665 ![]() |
Cod post | CH1-4 ![]() |
![]() | |
Dinas yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, a chanolfan weinyddol (tref sirol) y sir yw Caer (Saesneg: Chester).[1] Mae hi ar lan ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn agos iawn i ffin Cymru. Mae'r ddinas yn cael ei alw'n Caerlleon neu Caerlleon Gawr, mewn rhai testunau Cymraeg.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caer boblogaeth o 86,011.[2]
Mae muriau'r ddinas ymysg y gorau ym Mhrydain a cheir nifer o dai hynafol o ddiwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid yng nghanol y ddinas. Ers blynyddoedd mae Caer yn enwog am ei chae rasys ceffylau, ar gyrion y dref.