Cyfiawnder

Cerflun yr Arglwyddes Gyfiawn, symbol cyfiawnder.

Cysyniad ym meysydd cyfreitheg, athroniaeth wleidyddol a moeseg yw cyfiawnder sy'n ymwneud â thrin person yn deg, yn foesol, ac yn amhleidiol.[1] Yr ystyr athronyddol yw cymesuredd briodol rhwng haeddiant yr unigolyn a'r pethau drwg a da mae'r unigolyn yn ei dderbyn.[2] Mae cyfiawnder yn gysyniad sylfaenol o fewn y rhan fwyaf o systemau cyfreithiol gan ddilyn gwerthoedd a thraddodiadau cymdeithasol. Mae cyfiawnder cymdeithasol yn crybwyll trefn gyfiawn y tu allan i'r llysoedd barn. Ystyrir cyfiawnder yn nodwedd neu amcan hanfodol i'r wladwriaeth. O safbwynt y pragmatydd, cyfiawnder yw'r enw am ganlyniad teg. Yn ei gyd-destun crefyddol, cydymffurfio â deddf Duw yw ystyr cyfiawnder sy'n cynnwys uniondeb rhwng dyn a'i gymydog.[1]

Syniadaeth Aristotlys sy'n sail i'r mwyafrif o drafodaethau Gorllewinol am gyfiawnder. Disgrifiodd natur rinweddol a dibenyddol cyfiawnder. Aeth meddylwyr ers hynny i'r afael â chyfiawnder drwy wahanol ddulliau ac agweddau, ac yn adlewyrchu amryw o ideolegau a systemau meddwl. Pwysleisiodd rhinwedd cyfiawnder gan nifer o ddilynwyr Aristotlys a cheidwadwyr. Datblygodd Immanuel Kant athroniaeth dyletswyddeg a'r gorchymyn diamod: rheol foesol mae'n rhaid i bawb ufuddhau iddi er gwaethaf y cymhelliad neu'r canlyniad. Dadleuodd y defnyddiolwyr cyntaf, Jeremy Bentham a John Stuart Mill, taw'r lles cyffredin yw'r unig ystyriaeth parthed cyfiawnder. Lluniodd John Rawls yr egwyddor wahaniaethol, sy'n gosod tegwch yn sail i'w drefn gyfiawnder. Nod syniadau rhyddfrydol a chymunedol megis gwaith Rawls yw ceisio gwrthbwyso'r effaith sydd gan ffawd economaidd a grym gwleidyddol ar ein cymdeithas. Gwrthodwyd hyn gan rhyddewyllyswyr megis Robert Nozick: rhyddid yr unigolyn a hunanberchenogaeth yw sail cymdeithas ac felly'r drefn gyfiawnder yn ôl nhw.

Ceir nifer o fathau o gyfiawnder mewn penydeg a damcaniaeth gyfreithiol. Atal ail-droseddu yw amcan cyfiawnder adferol, a thrin y drosedd o safbwynt y dioddefwr a'r gymuned yn hytrach na'r wladwriaeth. Pwrpas y system gyfiawnder yw i gosbi'r drwgweithredwr yn ôl cyfiawnder dialgar.

  1. 1.0 1.1  cyfiawnder. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2016.
  2. (Saesneg) justice (social concept). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne