Baner (Y Ddraig Goch) | |
Arwyddair | "Cymru am byth", "Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn", "Yma o Hyd" |
---|---|
Math | Gwlad |
Prifddinas | Caerdydd |
Poblogaeth | 3,131,640 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Hen Wlad fy Nhadau |
Yma o Hyd | |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Nawddsant | Dewi Sant |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Cymraeg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | cenhedloedd Celtaidd |
Sir | 22 o siroedd |
Arwynebedd | 21,218 km² |
Yn ffinio gyda | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.35°N 3.63°W |
Cod SYG | W92000004 |
Diffiniad ISO: 'Gwlad' | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Cymru |
Corff deddfwriaethol | Senedd Cymru |
Pennaeth y wladwriaeth | Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cymru (Prif Weinidog y Deyrnas Unedig) |
Pennaeth y Llywodraeth | Eluned Morgan (Keir Starmer) |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | £85.4 biliwn (2022)[1] |
Arian | punt sterling |
Mae Cymru (Saesneg: Wales[2]; Cernyweg: Kembra[3], Gaeleg yr Alban: Chuimrigh[4]) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Bu Cymru yn wlad annibynnol yn yr oesoedd canol ond yn 1284 hawliwyd Cymru trwy gyfraith fel rhan o Deyrnas Lloegr, a newidiodd i'r Deyrnas Unedig a barhaodd mewn rhyw ffurf o 1707 tan y presennol. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad a siaredir Saesneg hefyd gan y mwyafrif helaeth o'i dinasyddion erbyn heddiw.
Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain a'r moroedd; Môr Hafren, y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 yn 2021[5] ac mae ganddi arwynebedd o 20,779 km2 (8,023 mi). Mae gan Gymru dros 2,700 km (1,700 mi) o arfordir ac mae'n fynyddig ar y cyfan. Mae gan Gymru fynyddoedd talach yn y gogledd a'r canoldir, gan gynnwys yr Wyddfa, ei chopa uchaf, yn Eryri. Mae'r wlad o fewn ardal tymheredd y gogledd ac mae ganddi hinsawdd forwrol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Caerdydd.
Brwydrodd lwythau'r Brythoniaid Celtaidd yn erbyn y Rhufeiniaid yn y 1g ac ni chafwyd feddiant llawn o Gymru tan iddynt adael yn y 3g a 4g. Gadawodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) a'r Rhufeiniaid Ynys Brydain yn y 5ed ganrif. Rhodri Mawr oedd y cyntaf i uno rhan mawr o Gymru yn y 9g gan a deyrnasu dros Wynedd, Powys, Ceredigion ac Ystrad Tywi. Yr unig frenin a lwyddodd i reoli Cymru gyfan oedd Gruffudd ap Llywelyn o 1057 hyd at 1063. Yn y 10g roedd Hywel Dda yn rheoli Cymru oll heblaw am Forgannwg; cyflwynodd Gyfraith Hywel a chynhyrchu ei arian ei hun.
Ar ôl i'r Normaniaid oresgyn Cymru ar ôl 1066, sefydlwyd Pura Wallia a'r Mers. Llwyddodd Owain Gwynedd a Rhys ap Tewdwr i adennill Gwynedd a Deheubarth oddi ar y Normaniaid ac fe gawsant lwyddiant mawr yn eu herbyn ym Mrwydr Crug Mawr yn 1136. Defnyddiodd y teitl brenin Cymru ac yn hwyrach "princeps" (tywysog) a ddynodai arweinydd sofran gwlad yn ôl cyfraith Rhufeinig. Yn 1201 fe ddaeth Llywelyn ap Iorwerth i'r amlwg gan ennill rheolaeth dros Wynedd a gwneud ei hun yn "Dywysog Gogledd Cymru gyfan", ac yn hwyrach defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri". Trosglwyddodd ei bwerau i'w fab Dafydd ap Llywelyn a chasglodd arweinwyr eraill y wlad yn Abaty Ystrad Fflur ynghyd i dalu gwrogaeth iddo fel Tywysog Cymru.
Daeth mab Dafydd, Llywelyn ap Gruffudd, Llywelyn ein Llyw Olaf, hefyd yn dywysog Cymru, ond yn 1282 fe'i lladdwyd ger Cilmeri. Lladdwyd ei frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1283 a phasiwyd Statud Rhuddlan yn 1284 gan gwblhau gorchfygiad de facto a chyfreithiol Cymru gan Edward I, brenin Lloegr. Dyma oedd diwedd annibyniaeth y wlad.
O 1400-1410 ailenillodd Owain Glyndŵr annibyniaeth i Gymru ac yn yr un cyfnod pasiwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402 i'w cosbi. Ar ôl i'r gwrthryfel fethu yn y tymor hir, cafodd Cymru ei hatodi gan Loegr a'i hymgorffori o fewn cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o dan Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542.
Datblygodd gwleidyddiaeth Gymreig nodedig yn y 19g, yn arbennig yn gysylltiedig â Rhyddfrydiaeth Gymreig ac hefyd Cymru Fydd. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r 20g gan David Lloyd George, ond cafodd ei ddadleoli gan dwf sosialaeth a sefydlwyd Llafur Cymru erbyn 1947. Ymgyrchodd Lloyd George yn gryf dros ddatganoli i Gymru yn ei yrfa cynnar a thyfodd teimlad cenedlaethol Cymreig dros y ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925, a Chymdeithas yr Iaith yn 1962. Enillodd datganoli Cymreig fomentwm yn ystod yr 20fed ganrif ac yn dilyn refferendwm datganoli Cymreig 1997, ffurfiwyd y Cynulliad yn 1999, ac mae wedi ennill mwy o ddatganoli ers hynny, a newidiodd ei enw yn Senedd Cymru yn 2020. Daeth mudiad cryfach dros annibyniaeth i Gymru i’r amlwg erbyn 2017, pan drafodwyd ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Daeth grwpiau o blaid annibyniaeth, megis YesCymru yn boblogaidd yn yr 21ain ganrif, er nad yw annibyniaeth yn cael ei chefnogi gan fwyafrif yng Nghymru.
Ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, trawsnewidiodd datblygiad y diwydiannau mwyngloddio a metelegol y wlad o fod yn gymdeithas amaethyddol i fod yn genedl ddiwydiannol; achosodd ecsbloetio Maes Glo De Cymru gynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cymru. Mae dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn Ne Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r cymoedd. Mae gan ranbarth dwyreiniol Gogledd Cymru tua chweched o'r boblogaeth gyfan a Wrecsam yw tref fwyaf y gogledd. Mae gan weddill Cymru ddwysedd poblogaeth llai. Nawr fod diwydiannau echdynnu a diwydiannau trwm traddodiadol y wlad wedi dirywio, mae economi Cymru yn seiliedig ar y sector cyhoeddus, diwydiannau ysgafn a gwasanaeth, a thwristiaeth. O fewn y diwydiant ffermio, gan gynnwys ffermio llaeth, mae Cymru yn allforiwr net.