Math | dinas yn yr Unol Daleithiau |
---|---|
Enwyd ar ôl | Iago II & VII |
Poblogaeth | 8,804,190 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Eric Adams |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | Budapest, Jeriwsalem, Johannesburg, Cairo, Llundain, Madrid, Beijing, Santo Domingo, Tokyo, Brasília, Borås Municipality, Oslo, Alger, Jakarta, Tel Aviv, Cali, Shanghai, Marrakech, Seoul, La Paz, Târgoviște, Dubai, Dinas Mecsico |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Efrog Newydd |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 1,213.369839 km² |
Uwch y môr | 25 metr |
Gerllaw | Afon Hudson, Afon y Dwyrain, Afon Bronx, Afon Harlem, Swnt Long Island, Cefnfor yr Iwerydd, Bae Efrog Newydd Uchaf, Bae Efrog Newydd Isaf |
Yn ffinio gyda | Westchester County, Union County, Hudson County, Nassau County, Bergen County |
Cyfesurynnau | 40.7128°N 74.0061°W |
Cod post | 10000–10499, 11004–11005, 11100–11499, 11600–11699 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas New York |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Efrog Newydd |
Pennaeth y Llywodraeth | Eric Adams |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $886,000 million |
Dinas yn Nhalaith Efrog Newydd yw Dinas Efrog Newydd (Saesneg: New York City; enw brodorol: Lenapehoking). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog yn Unol Daleithiau America ac fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannau Môr Iwerydd. Ers 1898, pan ffurfiwyd y ddinas, ceir yma bum bwrdeisdref: Y Bronx, Brooklyn, Manhattan, Queens, ac Ynys Staten[1]. Poblogaeth y ddinas ei hun yw 8,804,190 (1 Ebrill 2020)[2] o fewn arwynebedd ychydig yn llai na 305 milltir sgwâr (790 km²), sy'n ei gwneud y ddinas gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yn yr unol Daleithiau.[3] Mae poblogaeth yr ardal ehangach, sef yr ardal fetropolitan tua 20,140,470 (1 Ebrill 2020)[4][5] o bobl dros ardal o 6,720 milltir sgwâr (17,400 km²).[6]
Mae'n ddinas ryngwladol flaenllaw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys y Cenhedloedd Unedig, ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol. Fe'i disgrifir gan rai fel "prifddinas arian a diwylliant y Ddaear".[7]
|
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei thrafnidaeth 24 awr, am ddwysedd ei phoblogaeth a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "Gotham" a'r "Big Apple".
Ym 1609, fe wnaeth y fforiwr-archwiliwr o Loegr Henry Hudson ailddarganfod Harbwr Efrog Newydd wrth chwilio am y Northwest Passage i'r Dwyrain, tra'n gweithio i gwmni Vereenigde Oost-Indische Compagnie. Erbyn 1624 roedd y ddinas wedi'i sefydu fel canolfan fasnachu'r cwmni. Galwyd y lleoliad newydd yn "Amsterdam Newydd" tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Lloegr. Newidiwyd yr enw gan Frenin Lloegr pan drosglwyddodd y tiroedd yma i'w frawd y Duke of York ('Dug Efrog').[8][9] Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma ddinas fwyaf y genedl.[8]
Erbyn heddiw, mae gan y ddinas nifer o gymdogaethau a chofadeiladau byd enwog. Cyfarchodd y y Statue of Liberty filiynau o fewnlifwyr wrth iddynt ddod i'r Amerig ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae Wall St. ym Manhattan Isaf wedi bod yn ganolfan ariannol byd-eang ers yr Ail Ryfel Byd ac yno y lleolir Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd. Mae'r ddinas hefyd wedi bod yn gartref i nifer o adeiladau talaf y byd, gan gynnwys Adeilad Empire State a'r ddau dŵr yng Nghanolfan Fasnach y Byd.
For instance, Shanghai, the largest Chinese city with the highest economic production, and a fast-growing global financial hub, is far from matching or surpassing New York, the largest city in the U.S. and the economic and financial super center of the world."New York City: The Financial Capital of the World". Pando Logic. 8 Hydref 2015. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.