Mewn bioleg, tacsonomeg (o'r Groeg hynafol τάξις sef tacsis) yw'r astudiaeth wyddonol o enwi, diffinio a dosbarthu grwpiau o organebau biolegol yn seiliedig ar nodweddion cyffredin. Mae organebau wedi'u grwpio'n tacsa (unigol: tacson) a rhoddir rheng dacsonomig i'r grwpiau hyn; gellir rhestru rheng benodol i ffurfio grŵp mwy cynhwysol o safle uwch, gan greu yr hyn a elwir yn 'hierarchaeth dacsonomig'. Y prif rengoedd heddiw yw parth, teyrnas, ffylwm (defnyddir rhaniad weithiau mewn botaneg yn lle ffylwm), dosbarth, urdd, teulu, genws, a rhywogaeth. Ystyrir y botanegydd o Sweden, Carl Linnaeus, fel sylfaenydd y system dacsonomeg, wrth iddo ddatblygu system restredig a elwir yn dacsonomeg Linnaeaidd ar gyfer categoreiddio organebau ac enwau deuenwol ar gyfer enwi organebau.
Gyda datblygiadau mewn theori, data a thechnoleg ddadansoddol o systemateg fiolegol, mae'r system Linnaeaidd wedi trawsnewid yn system o ddosbarthu biolegol modern gyda'r bwriad o adlewyrchu'r perthnasoedd esblygiadol rhwng organebau byw ac wedi difodi.