Dulyn

Dulyn
ArwyddairObedientia Civium Urbis Felicitas Edit this on Wikidata
Mathdinas fawr, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon, y ddinas fwyaf, dinas â phorthladd Edit this on Wikidata
Poblogaeth592,713 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 841 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPaul McAuliffe Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirSwydd Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd114,990,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Life, Môr Iwerddon, Camlas Royal, Afon Dodder Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3497°N 6.2603°W Edit this on Wikidata
Cod postD1-18, 20, 22, 24, D6W, D1-18, 20, 22, D6W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredoloffice of the Lord Mayor of Dublin Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethollegislative body of Dublin City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Lord Mayor of Dublin Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPaul McAuliffe Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Gweriniaeth Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath; Saesneg: Dublin). Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg "dubh linn" ("pwll du"). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life ac yng nghanol Rhanbarth Dulyn. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol. Gweinyddwyd Teyrnas Iwerddon ac yna Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o Gastell Dulyn sydd o fewn hen ardal hanesyddol y ddinas. Mae'r Castell nawr yn ganolfan weinyddol a seremonïol o bwys i Weriniaeth Iwerddon.

Erbyn heddiw, rhestir y ddinas fel y degfed ar Fynegai Canolfannau Ariannol y Byd ac mae ei phoblogaeth yn tyfu gyda'r cyflymaf yn Ewrop. Mae Dulyn yn ganolbwynt hanesyddol a diwylliant cyfoes Iwerddon, yn ogystal â bod yn ganolfan fodern ar gyfer addysg, y celfyddydau, yr economi a diwydiant. Mae'n ganolfan weinyddol Swydd Dulyn.

Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.

Afon Life a'r ddinas gyda'r nos

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne