![]() | |
Math | eglwys blwyf ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam, Offa ![]() |
Sir | Wrecsam, Offa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 83 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0442°N 2.9927°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy ![]() |
Eglwys blwyf a leolir yn Wrecsam yw Eglwys San Silyn (Saesneg: St Giles' Church)[1] Mae addoldy wedi sefyll ar y safle ers y 13g o leiaf, ond codwyd y mwyafrif o'r adeilad presennol yn y 15g. Mae'n debyg mai'r arglwyddes Margaret Beaufort, mam Harri Tudur a gwraig i Thomas Stanley, Iarll Derby, a noddodd yr adeilad newydd. Os felly, mae'r eglwys yn un o nifer yng ngogledd-ddwyrain Cymru a noddwyd gan y teulu Stanley, sy'n cynnwys eglwysi plwyf Gresffordd a'r Wyddgrug a Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon.[2]
Caiff Eglwys San Silyn ei hystyried yn reolaidd fel un o gampweithiau pensaernïol Cymru,[3][4] ac yn ôl yn y rhigwm Saesneg o'r 18g, mae ei thŵr yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae'r eglwys yn enwog yn ryngwladol am fod Elihu Yale, a roes ei enw i Brifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau, wedi'i gladdu yn y fynwent.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Coldstream 9