Fel arfer mae gan ffwndamentaliaetharwyddocâd crefyddol sy'n dynodi ymlyniad diwyro i set o gredoau set.[1] Bellach, gall gyfeirio at duedd ymhlith rhai grwpiau - yn bennaf, er nid yn gyfan gwbl, mewn crefydd - a nodweddir gan set o reolau hynod gaeth, ac yn cael ei gymhwyso i rai ysgrythurau, dogmas, neu ideolegau penodol. Yn aml, ceir dehongliad llythrennol o'r rhain.
Credir hefyd yn y pwysigrwydd o gynnal gwahaniaethau rhwng beth a ganiateir mewn un grŵp, a'r hyn sydd y tu allan i'r grŵp.[2][3][4][5] Rhoddir pwyslais ar burdeb y set o gredoau, a'r awydd i ddychwelyd i ddelfryd neu ddehongliad blaenorol y mae eiriolwyr yn credu bod aelodau wedi crwydro ohoni. Mae gwrthod amrywiaeth ac 'annibyniaeth barn' o fewn y grŵp yn aml yn deillio o'r duedd hon.[6]
Yng Nghymru, gellir gweld 'agweddau o ffwndamentaliaeth' yn dod i'r golwg pan sefydlwyd Mudiad Efengylaidd Cymru yn 1947.[7]
Yn dibynnu ar y cyd-destun, gall y label "ffwndamentaliaeth" fod yn nodwedd ddifrïol yn hytrach na niwtral, yn debyg i'r ffyrdd y gall galw safbwyntiau gwleidyddol yn "adain dde" neu'n "adain chwith" fod â chynodiadau negyddol.[8]
↑Altemeyer, B.; Hunsberger, B. (1992). "Authoritarianism, religious fundamentalism, quest, and prejudice". International Journal for the Psychology of Religion2 (2): 113–133. doi:10.1207/s15327582ijpr0202_5.
↑Kunst, J. R.; Thomsen, L. (2014). "Prodigal sons: Dual Abrahamic categorization mediates the detrimental effects of religious fundamentalism on Christian-Muslim relations". The International Journal for the Psychology of Religion25 (4): 293–306. doi:10.1080/10508619.2014.937965.