Fitamin B

Fitamin B
Enghraifft o:dosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg Edit this on Wikidata
Mathfitamin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae fitaminau B yn gategori o fitaminau sy'n chwarae rhan bwysig ym metaboledd celloedd ac yn synthesis celloedd gwaed coch. Maen nhw i gyd yn hydoddi mewn dŵr. Cyfeirir at y gwahanol fathau o fitaminau B yn ôl rhif neu yn ôl enw cemegol, megis B1 = thiamin, B2 = ribofflafin, a B3 = niacin. Mae rhai yn fwy adnabyddus wrth eu henwau nag yn ôl rhif, fel asid pantothenig (B5), biotin (B7), ac asid ffolig (B9).

Mae pob fitamin B naill ai'n gydffactor ar gyfer proses metabolig allweddol neu'n rhagflaenydd i broses o'r fath.

Mae'r fitaminau B yn cael eu rhannu yn deulu o wyth. Dyma aelodau'r teulu:


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne