Y sefyllfa ar 24 Awst 2014 Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd Gweddill Irac a Syria Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014
Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd Gweddill Irac a Syria
Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
Cyfundrefn ymbarél derfysgol yw'r Wladwriaeth Islamaidd[9] (Arabeg: الدولة الإسلامية ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah) (Saesneg: Islamic State (IS)) a adnabyddir cynt fel Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (Arabeg: الدولة الاسلامية في العراق والشام اختصاراً: داعش Dawlat al-ʾIslāmiyya fi al-'Iraq wa-l-Sham), ISIS neu ISIL. Yn 2014 roedd ei haelodau'n weithgar yn Irac a Syria. Bwriad y grŵp a'i gynghreiriad yw sefydlu gwladwriaethIslamaiddSunni ffwndamentalaidd a fyddai'n ymestyn o'r Lefant i Gwlff Persia a gweddill y byd. Galwant eu hunain yn galiffad, ac maent yn hawlio awdurdod crefyddol dros pob Mwslim dros hyd a lled y byd[10] a cheisiant reoli'n wleidyddol gwledydd Mwslemaidd y byd,[11] gan gychwyn gydag Irac, Syria a thiriogaethau'r Lefant (yr Iorddonen, Israel, Palesteina, Libanus, Cyprus a rhan o dde Twrci.[12][13]