Ieithyddiaeth

Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Arddulleg
Cystrawen
Ffonoleg
Ieithyddiaeth wybyddol
Morffoleg
Pragmateg
Semanteg
Semanteg eirfaol
Semioteg
Ieithyddiaeth ddisgrifiadol
Geirdarddiad
Ieithyddiaeth gymdeithasol
Ieithyddiaeth gymharol
Ieithyddiaeth hanesyddol
Seineg
Ieithyddiaeth gymhwysol
Caffael iaith

Yr astudiaeth wyddonol o iaith yw’r ieithyddiaeth. Cynhwysa'r ddisgyblaeth yn bennaf ymchwil strwythur ac ystyr ieithyddol. Gelwir yr ail faes ymchwil yn semanteg; gramadeg yw'r enw a roddir ar ymchwil strwythur ieithyddol, ac fe gynhwysa dri is-faes, sef morffoleg (yr astudiaeth o ffurfiad a chyfansoddiad geiriau), cystrawen (yr astudiaeth o'r rheolau a phenderfynant sut y cyfunir geiriau i ffurfio ymadroddion a brawddegau), a ffonoleg (yr astudiaeth o systemau sain ac unedau sain mewn iaith). Astudiaeth berthnasol i'r olaf, yn ymwneud â phriodweddau ffisegol seiniau llafar, yw seineg. Fe elwir unigolyn a wna ymchwil ieithyddol yn ieithydd.

Mae ieithyddiaeth, fel pob cangen o wyddoniaeth, yn faes rhyngddisgyblaethol; fe dynna ar waith mewn meysydd megis seicoleg, gwybodeg, cyfrifiadureg, athroniaeth, bywydeg, niwrowyddoniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg ac acwsteg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne