Mennoniaid

Mennoniaid
Math o gyfrwngenwad crefyddol, diwylliant Edit this on Wikidata
MathAilfedyddiaeth Edit this on Wikidata
Rhan oAilfedyddiaeth, Protestaniaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOld Roman Mennonites Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eglwys y Mennoniaid yn Hamburg.

Enwad Protestannaidd a ddeilliodd o'r Ailfedyddwyr yw'r Mennoniaid neu'r Menoniaid. Cyfododd y Mennoniaid yn yr Iseldiroedd a'r Almaen tuag amser y Diwygiad Protestannaidd. Enwir y sect ar ôl y diwygiwr Ffrisiaidd Menno Simons (1496–1561), offeiriad Pabyddol a ymunodd â'r Ailfedyddwyr ym 1536. Pwysleisiodd ei athrawiaeth fedydd credinwyr mewn oed, disgyblaeth eglwysig, heddychaeth, a gwrthod gwasanaethu fel ynadon. Wedi ei farwolaeth, tyfodd fudiad efengylaidd o'i ddilynwyr yn y Swistir. Mudodd nifer ohonynt i'r Almaen i ddianc erledigaeth. Lledodd y Mennoniaid i Ffrainc, Rwsia a'r Iseldiroedd. Cyhoeddwyd Cyffes Ffydd Dordrecht yn yr Isalmaen ym 1632. Ymfudodd nifer o Fennoniaid i Ogledd America, yn bennaf Pensylfania ac Ohio.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne