Michel de Montaigne | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Chwefror 1533 ![]() Saint-Michel-de-Montaigne ![]() |
Bu farw | 13 Medi 1592 ![]() Saint-Michel-de-Montaigne ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd, cyfreithegwr, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, gwleidydd, bardd-gyfreithiwr, moesolwr Ffrengig, llenor ![]() |
Swydd | Maer Bordeaux ![]() |
Adnabyddus am | Essays ![]() |
Tad | Pierre Eyquem de Montaigne ![]() |
Priod | Françoise de La Chassaigne ![]() |
Perthnasau | Jean de Ségur ![]() |
llofnod | |
![]() |
Awdur o Ffrainc oedd Michel Eyquem de Montaigne (28 Chwefror 1533 – 13 Medi 1592). Ei waith enwocaf yw'r Essais ('Traethodau'), cyfres hir o fyfyrdodau, mewn tair cyfrol, sy'n ymdreiddio i natur y meddwl dynol ac yn rhoi portread cofiadwy o'r awdur ei hun dros y blynyddoedd. Daethant yn boblogaidd iawn a chyhoeddwyd dros gant o argraffiadau. Ar sawl ystyr, yr Essais oedd sail blodeuo athroniaeth yn Ffrainc yn yr 17g a arweiniodd yn ei dro at Oleuedigaeth y 18g.
Cafodd ei eni yn y château de Montaigne yn Périgord, yn fab i Pierre Eyquem, maer Bordeaux, Aquitaine. Cyfaill y bardd Étienne de la Boétie oedd ef. Bu farw Boétie yn 1563 a phriododd Montaigne ei weddw yn 1565.