Mur Berlin, Tachwedd 1975 | |
Math | cordon, cyn-adeilad, atyniad twristaidd, fortified line, separation barrier |
---|---|
Enwyd ar ôl | Berlin |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ffin fewnol yr Almaen, Y Llen Haearn |
Sir | Berlin, Dwyrain Berlin |
Gwlad | Gorllewin yr Almaen, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, yr Almaen |
Cyfesurynnau | 52.5044°N 13.4411°E |
Hyd | 155 cilometr |
Statws treftadaeth | Heritage monument in Berlin |
Cost | 100,000,000 Mark Dwyrain yr Almaen |
Manylion | |
Deunydd | Concrit cyfnerthedig |
Mur Berlin oedd yr enw answyddogol a roddwyd ar y mur anferth a godwyd ym 1961 ym Merlin rhwng Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin i atal ffoaduriaid rhag croesi i'r Gorllewin. Serch hynny, honnodd llywodraeth y Dwyrain i'r mur gael ei adeiladu er mwyn amddiffyn Dwyrain Berlin rhag "ffasgwyr" y Gorllewin. Am ddegawdau roedd Mur Berlin yn symbol o'r rhwyg rhwng Dwyrain a Gorllewin Ewrop a rhwng y Gorllewin a'r Byd Comiwnyddol yn gyffredinol.
Yn ystod cyfnod bodolaeth y mur, dihangodd tua 5000 o bobl dros y mur yn llwyddiannus. Mae rhyw ddadl am nifer y bobl a gollodd eu bywydau wrth iddynt geisio dianc. Yn ôl Alexandra Hildebrandt, cyfarwyddwr Amgueddfa Checkpoint Charlie, mwy na 200 o bobl fu farw; ond mae amcangyfrifion eraill yn is.
Ym mis Tachwedd 1989 chwalwyd rhan sylweddol o'r mur gan Almaenwyr cyffredin. Dyma un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf yr 20g sy'n symboleiddio diwedd y Rhyfel Oer a'r newid mawr a fu yng ngwledydd Cytundeb Warsaw ac Ewrop gyfan yn sgil hynny.