Owain Lawgoch | |
---|---|
![]() Arfbais Owain Lawgoch, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan Owain Glyn Dŵr | |
Ganwyd | 1330 ![]() Surrey ![]() |
Bu farw | Gorffennaf 1378 ![]() Mortagne-sur-Gironde ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, person milwrol ![]() |
Tad | Tomas ap Rhodri ![]() |
Llinach | Llys Aberffraw ![]() |
Roedd Owain Lawgoch, enw bedydd Owain ap Thomas ap Rhodri (Ffrangeg, Yvain de Galles "Owain Gymro"; Saesneg, Owain of the Red Hand) (tua 1330 – 22 Gorffennaf 1378[1][2]), yn ŵyr i Rhodri ap Gruffudd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ef oedd etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, a chyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysog Cymru. Treuliodd ran helaeth o'i oes fel milwr yn Ffrainc, yn ymladd dros frenin Ffrainc yn erbyn Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Cynlluniodd nifer o ymgyrchoedd i Gymru i hawlio ei etifeddiaeth, ond ni lwyddodd i lanio yno. Llofruddiwyd ef gan asiant cudd y llywodraeth Seisnig tra'n gwarchae ar gastell Mortagne.