![]() | |
Enghraifft o: | swydd gyhoeddus ![]() |
---|---|
Math | prif weinidog, Great Officer of State ![]() |
Rhan o | Cabinet y Deyrnas Unedig ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 4 Ebrill 1721 ![]() |
Deiliad presennol | Keir Starmer ![]() |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | Prime Minister of the United Kingdom ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://www.gov.uk/government/organisations/prime-ministers-office-10-downing-street ![]() |
![]() |
Pennaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae'n bennaeth Llywodraeth Ei Fawrhydi a Chabinet y Deyrnas Unedig. Y Prif Weinidog cyfredol yw Keir Starmer, a apwyntiwyd gan Frenin y DU. Cartref swyddogol y Prif weinidog yw 10 Stryd Downing, Llundain a'r cartref gwledig yw Chequers. Gyda Gweinidogion y Cabinet mae'n atebol i'r Llywodraeth, i Goron Lloegr, i'w blaid ei hun ac yn y pendraw i'w bobl.
Nid yw'r swydd hon wedi'i diffinio o fewn unrhyw gyfansoddiad na deddfwriaeth eithr drwy draddodiad yn unig, sy'n mynnu fod yn rhaid i'r frenhiniaeth benodi'r person mwyaf tebygol o hawlio ffydd aelodau'r Tŷ'r Cyffredin yn Brif Weinidog. Drwy draddodiad, mae'n penodi arweinydd y blaid a enillodd y fwyaf o seddi yn siambr San Steffan.
Ni chrewyd y swydd, felly; cafodd ei ffurfio'n araf dros dri chan mlynedd a hynny mewn modd penchwiban. Mae gwreiddiau'r swydd i'w canfod mewn newidiadau cyffrous yn y cyfansoddiad rhwng 1688 a 1720 a'r modd y symudodd y pwer o ddwylo'r frenhiniaeth i ddwylo'r Llywodraeth. Gwnaed hyn, yng ngwledydd Prydain, nid drwy chwyldro a chwalu'r frenhiniaeth eithr drwy iddi hi neu ef lywodraethu drwy'r Prif Weinidog. Mae'r frenhiniaeth, felly, wedi parhau'n bennaeth ar y Llywodraeth, ond mewn enw a seremoni'n unig.
Erbyn y 1830au, roedd y system llywodraethol yn San Steffan wedi deor o'i blisg; roedd y Prif weinidog yn primus inter pares, neu'n gydradd, o fewn y Cabinet ac yn bennaeth ar y Llywodraeth. Esblygodd y swydd law yn llaw ag esblygiad y pleidiau gwleidyddol a datblygiad y cyfryngau torfol megis teledu, radio, papurau, ffotograffiaeth a'r rhyngrwyd.
Cyn 1902 deuai'r Prif Weinidog weithiau o Dŷ'r Arglwyddi ond wrth i bwer yr Arglwyddi wanychu yn ystod y 19g cryfhaodd y traddodiad iddo eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Cadarnhawyd hyn gan Ddeddf 1911 a roddodd fwy o rym i Dŷ'r Arglwyddi ar dael Tŷ'r Arglwyddi.[5] Oherwydd yr holl bwer unbeniaethol hwn ofna rhai fod trefn "Arlywyddol" Unol daleithiau'r America wedi ei gyrraedd.
Gan nad yw'r swydd wedi'i chreu'n swyddogol, ni ellir datgan unwaith-ac-am-byth pwy oedd yn y swydd yn gyntaf. Eithr, yn answyddogol, gellir nodi Robert Walpole a ddaeth i swydd "Yr Arglwydd Cyntaf i'r Trysorlys" ym 1721.