Mae protest yn fynegiant cyhoeddus o wrthwynebiad, anghymeradwyaeth neu anghytuno efo syniad neu gweithrediad, fel arfer un wleidyddol.[1][2] Gall protestiadau fod ar sawl ffurf wahanol, o ddatganiadau unigol i brotest torfol. Gall protestwyr drefnu protest fel ffordd o leisio eu barn yn gyhoeddus mewn ymgais i ddylanwadu ar farn y cyhoedd neu bolisi'r llywodraeth, neu gallant gymryd camau uniongyrchol mewn ymgais i ddeddfu newidiadau dymunol [3] Lle mae protestiadau yn rhan o ymgyrch systematig, ddi-drais a heddychlon i gyflawni amcan penodol, ac yn cynnwys defnyddio pwysau yn ogystal â pherswâd, maent yn mynd y tu hwnt i ddim ond protestio ac efallai y cânt eu disgrifio'n well fel achosion o wrthwynebiad sifil neu wrthwynebiad di-drais .[4]