Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws

Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws
Рада Беларускай Народнай Рэспублікі
Рада Белорусской Народной Республики
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
Math[[Llywodraeth dros dro Deddfwrfa]]
Arweinyddiaeth
ArlywyddIvonka Survilla
ers 1997
Man cyfarfod
Cyfleusterau diaspora Belarwsia yng Ngogledd America, Prydain a gwledydd eraill
Gwefan
http://www.radabnr.org

Llywodraeth alltud yw Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws [1] (Belarwseg: Рада Беларускай Народнай Рэспублікі, Рада БНР, Rada BNR; Rwseg: Рада Белорусской Народн). Y cyfieithiad llythrennol o'r Belarwsieg yw: Cyngor Gweriniaeth Genedlaethol Belarws, arddelir y term 'democrataidd' yn y fersiwn Saesneg er mwyn gwahaniaethu rhag Llywodraeth unbenaethol Alexander Lukashenko ers 1994. Dyma corff sy'n olrhain ei hanes yn uniongyrchol i Weriniaeth Pobl Belarws a fodolwyd am gyfnod byr wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Adwaenir y Weriniaeth yma gan sawl gwahanol enw: Gweriniaeth Pobl Belarws, Gweriniaeth Genedlaethol Belarws, a Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws ond fel rheol gan y talfyriad Belarwseg, BNR.

Er 1919, mae Rada'r BNR wedi bod yn alltud lle mae wedi dod yn sefydliad gwleidyddol mwyaf dylanwadol y diaspora Belarws[2] ac yn grŵp eiriolaeth sy'n hyrwyddo cefnogaeth i annibyniaeth a democratiaeth Belarwsia ym Melarws ymhlith llunwyr polisi'r Gorllewin.[3] O 2020 ymlaen, Rada BNR yw'r llywodraeth alltud hynaf yn y byd.

  1. as spelled on the Official website Archifwyd 4 Gorffennaf 2012 yn y Peiriant Wayback
  2. "Heart of darkness". The Economist. 13 March 2008. Cyrchwyd 27 October 2017.
  3. The BNR Rada as the oldest Belarusian democratic advocacy group - Official website of the Rada BNR, 16 July 2019

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne