Rudyard Kipling | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Joseph Rudyard Kipling ![]() 30 Rhagfyr 1865 ![]() Mumbai ![]() |
Bu farw | 18 Ionawr 1936 ![]() o briw ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, gohebydd rhyfel, awdur plant, hunangofiannydd, sgriptiwr, newyddiadurwr, awdur ffuglen wyddonol ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Jungle Book, Kim, If—, The Second Jungle Book, Just So Stories, Gunga Din ![]() |
Prif ddylanwad | Robert Louis Stevenson ![]() |
Tad | John Lockwood Kipling ![]() |
Mam | Alice Macdonald Kipling ![]() |
Priod | Caroline Starr Balestier ![]() |
Plant | John Kipling, Elsie Bambridge, Josephine Kipling ![]() |
Perthnasau | Catherine Pullein ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Lektorix, doethor anrhydeddus o Brifysgol Paris, Ehrendoktor der Universität Straßburg ![]() |
llofnod | |
![]() |
Awdur a bardd yn yr iaith Saesneg a anwyd ym Mumbai (Bombay) India oedd Joseph Rudyard Kipling (30 Rhagfyr 1865 – 18 Ionawr 1936). Roedd yn awdur cynhyrchiol ac mae nifer o'i straeon a nofelau'n lleoledig yn India. Mae'n enwocaf am ei lyfrau straeon i blant The Jungle Book (1894) a Just So Stories (1902). Cyhoedd hefyd y straeon byrion yn Plain Tales from the Hills (1888), y nofel Kim (1901), a'r cerddi "Gunga Din" ac "If—" yn y gyfrol Barrack Room Ballads and Other Verses (1892).
Am beth amser ar ôl ei farwolaeth, roedd yn amhoblogaidd mewn cylchoedd llenyddol oherwydd ei fod yn ymddangos ei fod yn amddiffyn "Imperialaeth Orllewinol" a'r Ymerodraeth Brydeinig yn neilltuol. Roedd yn fwyaf poblogaidd yn yr 1900au ac fe'i wobrwyd â Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 1907 y person ieungcaf i ennlil y wobr ydyw.
Fe gynigwyd y teitlau "Syr" a "Llenor-fardd Prydeinig" iddo, ond fe wrthododd.