![]() | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Symbol | ![]() | ||||||
Nodweddion orbitol | |||||||
Pellter cymedrig i'r Haul | 9.539 US | ||||||
Radiws cymedrig | 1,426,725,400km | ||||||
Echreiddiad | 0.05415060 | ||||||
Parhad orbitol | 378.1d | ||||||
Buanedd cymedrig orbitol | 9.6724 km s−1 | ||||||
Gogwydd orbitol | 2.48446° | ||||||
Nifer o loerennau | 31 | ||||||
Nodweddion materol | |||||||
Diamedr cyhydeddol | 120,536 km | ||||||
Arwynebedd | 4.32×1010km2 | ||||||
Más | 5.688×1026 kg | ||||||
Dwysedd cymedrig | 0.69 g cm−3 | ||||||
Disgyrchiant ar yr arwyneb | 8.96 m s−2 | ||||||
Parhad cylchdro | 10a 13m 59e ar yr arwyneb 10a 39m 25e mewnol | ||||||
Gogwydd echel | 26.73° | ||||||
Albedo | 0.47 | ||||||
Buanedd dihangfa | 35.49 km s−1 | ||||||
Tymheredd ar yr arwyneb: |
| ||||||
Nodweddion atmosfferig | |||||||
Gwasgedd atmosfferig | 140kPa | ||||||
Hydrogen | >93% | ||||||
Heliwm | >5% | ||||||
Llosgnwy | 0.2% | ||||||
Anwedd dŵr | 0.1% | ||||||
Amonia | 0.01% | ||||||
Ethan | 0.0005% | ||||||
Ffosffin | 0.0001% |
Sadwrn (symbol: ), a'i gylchoedd amlwg, yw ail blaned fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. ydy'r ail fwya o'r planedau a'r chweched o'r haul (neu'r 7fed erbyn hyn os derbynir yr argymhelliad diweddar bod Ceres, y mwyaf o'r asteroidau, yn blaned).
Sadwrn hefyd yw'r pellaf o'r planedau a ellir eu gweld â llygaid noeth, yn gorwedd 938 miliwn o filltiroedd o'r haul ac yn cymryd 29.5 o flynyddoedd i gylchdroi amdano. Blwyddyn Sadyrnaidd go hir felly ond mae ei ddydd yn fyr – 10 awr i droi ar ei echel. Golyga'r troelli dyddiol cyflym yma, a chyfansoddiad hylifol yn bennaf, ei fod yn taflu allan rhywfaint am ei ganol, fel ei fod 10% yn fwy ar ei draws nag ydy o'r de i'r gogledd.