![]() | |
Enghraifft o: | panethnicity ![]() |
---|---|
Math | pobl Indo-Ewropeaidd ![]() |
Poblogaeth | 300,000,000 ![]() |
Crefydd | Cristnogaeth, eglwysi uniongred, catholigiaeth, islam, protestaniaeth, paganiaeth, swnni, anffyddiaeth, slavic religion ![]() |
Yn cynnwys | Slafiaid Gorllewinol, Slafiaid Deheuol, Slafiaid y Dwyrain, Early Slavs, North Slavs, Bavaria Slavica ![]() |
System ysgrifennu | Glagolitic, Yr wyddor Gyrilig, yr wyddor Ladin ![]() |
![]() |
Cangen ieithyddol ac ethnig o'r bobloedd Indo-Ewropeaidd yw'r Slafiaid. O'u mamwlad gyntefig ar wastatiroedd Wcráin, ymledodd y bobloedd Slafaidd dros rhan helaeth o Ddwyrain Ewrop, gan wladychu'r Balcaniaid, glannau'r Baltig a Rwsia yn yr Oesoedd Canol cynnar. Gyda thwf Ymerodraeth Rwsia o'r 16g ymlaen, daeth Siberia ac ardaloedd eraill gogledd Asia o dan reolaeth Slafiaid.
Yn draddodiadol, dosbarthir y Bobloedd Slafaidd ar sail iaith yn dri grŵp: Slafiaid y Gorllewin (Tsieciaid, Pwyliaid, Slofaciaid a Sorbiaid), Slafiaid y Dwyrain (Belarwsiaid, Wcreiniaid a Rwsiaid) a Slafiaid y De (Bwlgariaid a bobloedd yr hen Iwgoslafia: Bosniaid, Croatiaid, Macedoniaid, Montenegroaid, Serbiaid a Slofeniaid).