Math o gyfrwng | weapon functional class, vehicle functional class |
---|---|
Math | armored fighting vehicle |
Dyddiad darganfod | 1915 |
Yn cynnwys | tank running gear, continuous track |
Gweithredwr | Afghan National Army, Albanian Joint Forces Command, Byddin yr Unol Daleithiau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cerbyd ymladd amgaeëdig durblatiog iawn a arfogir â chanon a gynau peiriant yw tanc sy'n symud ar draciau treigl. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer ymladd uniongyrchol.
Roedd nifer o fyddinoedd wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gael cerbydau o'r math yma cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Fyddin Brydeinig oedd y cyntaf i'w defnyddio mewn rhyfel, ar 15 Medi 1916. Ni fuont yn llwyddiannus iawn y tro hwnnw, ond yn fuan datblygwyd mathau mwy effeithiol.
Bu datblygiadau pellach rhwng y ddau ryfel byd. Yn yr Ail Ryfel Byd roedd y tanc yn arf o bwysigrwydd mawr, yn enwedig ar y ffrynt dwyreiniol, lle bu brwydrau tanc enfawr rhwng yr Almaen Natsïaidd a'r Undeb Sofietaidd, yn arbennig Brwydr Kursk yn 1943. Ymhlith y tanciau a gymerodd ran yn y rhain roedd y T-34 Sofietaidd a'r Tiger I a'r Panther Almaenig. Parhaodd y tanc i fod yn arf pwysig wedi'r rhyfel.